Skip to content

Sgiliau

Ffotograffydd: Ole Jørgen Bratland

Mae Cyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr, yn ei Adroddiad Gwybodaeth Sgiliau Gwynt ar y Môr y DU, yn nodi er mwyn cyflawni uchelgeisiau’r DU o 50 GW o wynt ar y môr erbyn 2030, bydd angen gweithlu o 100,000 o bobl yn niwydiant gwynt ar y môr y DU. Mae Equinor yn datblygu’r gweithlu ynni gwynt ar y môr i gefnogi’r gwaith o gyflawni ei brosiect a byddai’n creu a chynnal miloedd o swyddipe bai’n llwyddo i sicrhau maes prydlesu i’w ddatblygu yn y Môr Celtaidd.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag eraill yn y diwydiant i ysgogi twf sgiliau, gan gydweithio â Chyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr, RenewableUK ac Ynni Morol Cymru i gynyddu meddwl ar ysgogi sgiliau.

Yn Norfolk a Gogledd-ddwyrain Lloegr, mae Equinor yn ysgogi datblygiad sgiliau ymhlith ei gadwyn gyflenwi trwy alluogi addysg barhaus trwy Drosglwyddiadau Ardoll Prentisiaethau. Gan weithio gyda darparwyr hyfforddiant lleol, mae Equinor yn cefnogi derbyniadau prentisiaethau ar raddfa cohortau i bontio bylchau sgiliau a helpu gweithwyr BBaChau lleol i ddatblygu sgiliau mewn meysydd a nodir gan gynghorau lleol fel rhai sy’n brin.

Credwn mai gweithlu lleol medrus fydd yn y sefyllfa orau i gynorthwyo Equinor i gyflenwi gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd. I gefnogi hyn, rydym am weithio gyda cholegau a phrifysgolion lleol i sicrhau twf cryf mewn sgiliau ac arbenigedd perthnasol yn y rhanbarth – nawr ac yn y dyfodol.