Cwmni ynni byd-eang yw Equinor sy’n gyflenwr ynni mwyaf y DU, ac mae wedi bod yn gweithredu yn y DU ers 40 mlynedd. Ein pwrpas yw troi adnoddau naturiol yn ynni i bobl ac yn gynnydd i gymdeithas. Erbyn 2025, byddwn yn pweru mwy na chwe miliwn o gartrefi yn y DU o’n ffermydd gwynt, gan gynhyrchu trydan adnewyddadwy ledled y wlad.
Rydym yn gynhyrchydd byd-eang pwysig o ynni gwynt ar y môr ac yn arloeswr ym maes ynni gwynt arnofiol ar y môr. Yn y DU, rydym ar hyn o bryd yn adeiladu fferm wynt fwyaf y byd yn Dogger Bank, ac yn gweithredu fferm wynt arnofiol gyntaf y byd, Hywind Scotland. Rydym hefyd yn adeiladu fferm wynt arnofiol fwyaf y byd yn Norwy, sef Hywind Tampen.