Mae Ystad y Goron wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu dyfarnu prydlesi gwely’r môr i ddatblygwyr prosiectau i gyflenwi hyd at 4GW o ynni gwynt arnofiol ar y môr erbyn 2035 yn y Môr Celtaidd.
Aseswyd bod gan ranbarth y Môr Celtaidd y potensial economaidd i ddarparu ar gyfer hyd at 20GW ychwanegol o wynt ar y môr erbyn 2045.
Mae cyfoeth adnoddau gwynt y rhanbarth a’i hanes morwrol cryf yn rhoi cyfle i ddatblygu ffermydd gwynt arnofio ar y môr ar raddfa fasnachol, tra’n helpu i ddatblygu diwydiant gwynt arnofiol newydd trwy gydweithio â’r gadwyn gyflenwi leol.
Mae Ystâd y Goron wedi nodi’r amserlen ganlynol ar gyfer rownd prydlesu gwely’r môr yn y Môr Celtaidd. Mae yr amserlen datblygu ynni gwynt arnofiol ar y môr yn dibynnu ar yr amserlen hon.
