Cymunedol

Mae Equinor yn pweru dros 750,000 o gartrefi yn y DU drwy wynt ar y môr, a bydd yn pweru mwy na 5 miliwn o gartrefi erbyn 2025. Ein gwerthoedd craidd fel cwmni yw bod yn agored, yn gydweithredol, yn ddewr ac yn ofalgar. Wrth weithio gyda chymunedau lletyol i ddatblygu ein ffermydd gwynt ar y môr, rydym yn gweithredu gyda pharch at ddefnyddwyr eraill y môr, cymunedau lleol ac amgylcheddau
Mae gan ddatblygiad gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd y potensial i ddod â manteision sylweddol i gymunedau lleol.
Os bydd Equinor yn llwyddo i sicrhau ardaloedd prydlesu gwely’r môr i ddatblygu prosiectau gwynt arnofiol ar y môr, byddem yn sicrhau bod ein prosiectau’n cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol cynaliadwy, trwy greu sgiliau, cyfleoedd addysgol a buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi.
Mae Equinor yn bwriadu datblygu ei brosiectau yn unol â’r uchelgeisiau canlynol:

Sut mae Equinor yn gweithio gyda chymunedau lletyol i sicrhau buddion i bawb
Mae gennym hanes o greu gwerth cymdeithasol ac economaidd a gweithio gyda chymunedau lleol lle bynnag yr ydym yn gweithredu. Yn hollbwysig, ein nod gyntaf yw deall pa ymyriadau fyddai’n creu’r budd mwyaf i gymunedau lletyol.
Yn Norfolk, o amgylch ein Ffermydd Gwynt Sheringham Shoal a Dudgeon ar y môr, rydym wedi ymgysylltu â’r gymuned leol i ddatblygu a darparu cronfa budd cymunedol sydd bellach wedi dosbarthu mwy na £1 miliwn i gymuned Norfolk. Mae’r gronfa wedi’i sefydlu i roi grantiau i grwpiau cymunedol Norfolk, gan gynnwys ysgolion ac elusennau, sy’n ceisio cymorth ariannol ar gyfer prosiectau neu fentrau sy’n bodloni meini prawf allweddol ac sy’n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, amgylchedd morol a diogelwch, cynaliadwyedd, neu addysg yn y meysydd hyn.
Yn Dogger Bank, sydd wedi’i leoli oddi ar ogledd-ddwyrain Lloegr, a’r fferm wynt fwyaf ar y môr yn y byd sy’n cael ei hadeiladu, rydym wedi sefydlu cronfa ysgoloriaethau i roi grantiau i fyfyrwyr lleol sy’n dilyn cyrsiau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) mewn addysg bellach. Roedd y grantiau a ddarparwyd ar ddechrau’r flwyddyn yn rhan o rownd gyntaf y gronfa ysgoloriaethau, gyda chyfanswm o 62 o ysgoloriaethau’n cael eu dyfarnu yn ystod cyfnod adeiladu'r fferm wynt fwyaf y byd. Mae'r ysgoloriaethau i helpu myfyrwyr gyda chost ffioedd dysgu.