Mae parch at yr amgylchedd yn un o ragofynion Equinor ar gyfer llwyddiant. Gyda hyn daw cyfrifoldeb nid yn unig i wneud dim niwed wrth ddatblygu prosiectau ond hefyd i wella ansawdd yr amgylchedd morol.
Mae Equinor yn cynnal nifer o astudiaethau ar gydfodolaeth gwynt ar y môr ac effaith amgylcheddol o amgylch ei brosiectau gwynt ar y môr.
Gyda’r Fforwm Monitro ac Ymchwil i Ynni Gwynt ar y Môr (OWSMRF), sy’n cael ei ddarparu gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC), mae Equinor a phartneriaid eraill yn y diwydiant yn nodi anghenion blaenoriaethol ar gyfer gwella dealltwriaeth o effaith ffermydd gwynt ar y môr ar adar morol yn y Deyrnas Unedig. Mae ymchwil wedi canolbwyntio ar wylanod coesddu, yn ogystal â grŵp newydd o rywogaethau sy’n llawer llai hysbys – adar drycin Manaw a phedrynnod y storm. Mae’n anodd astudio adar drycin Manaw a phedrynnod y storm oherwydd eu cynefinoedd anghysbell ac, o’u cymharu â rhywogaethau eraill, ychydig iawn sy’n hysbys am sut maent yn defnyddio’r amgylchedd morol, sut mae eu poblogaethau yn ymdopi a sut maent yn rhyngweithio â ffermydd gwynt ar y môr.
Mae gan fferm wynt arnofiol ar y môr y potensial i gynyddu cynefinoedd a chyfleoedd biomas yn y Môr Celtaidd. Mae diogelu a gwella'r amgylchedd ar gyfer mamaliaid morol hefyd yn rhan allweddol o'n ffordd o feddwl. Rydym yn parhau i gasglu data newydd o'n hasedau Hywind Scotland a Hywind Tampen, sy'n parhau i helpu i aeddfedu a llywio ein datblygiadau.